Bws Carchar
Mae Jigsaw yn deall pa mor bwysig ydy cadw teuluoedd gyda’i gilydd drwy amseroedd caled, ac mae ein gwasanaeth Bws Carchar Teuluoedd Gogledd Cymru yn rhoi cyfleoedd gwell i deuluoedd a ffrindiau pobl sydd yn y carchar yn Altcourse fynd i’w gweld.
Gall y gwasanaethau redeg o Fangor ar ddydd Llun olaf y mis, yn ogystal ag o Landudno drwy Fae Colwyn a’r Rhyl ar ddydd Llun cyntaf y mis, ond mae’n dibynnu ar gael o leiaf 3 oedolyn yn teithio ar bob siwrne.
Ni ddylai tocyn taith ddwy ffordd gostio dim mwy na £25 yr un ond fel arfer mae am ddim i unrhyw un sy’n derbyn budd-daliadau drwy’r rhaglen Ymweliadau Carchar gyda Chymorth (APV). Felly, ymlaciwch, ewch â’r plant gyda chi a mwynhewch y siwrne ddwy ffordd sy’n mynd yn syth yno gan wneud popeth yn haws i’r bobl hynny o ogledd Cymru sy’n ymweld â’u hanwylon.
Yn dibynnu ar y nifer lleiaf o deithwyr fel sydd wedi’i nodi uchod, efallai bydd taith ychwanegol ar ail ddydd Iau bob mis ar gyfer ymwelwyr adain Carcharorion Bregus (VP).
Mae’r trefniadau wedi’u trefnu gyda CEM Altcourse ac yn cynnwys Jigsaw yn gweithio gyda PSS, CAIS a Chymunedau Arc i ddarparu’r gwasanaeth. Rydym ni hefyd yn ystyried y posibilrwydd o drefnu ymweliadau i CEM Styal.
Ffyrdd y Bysiau Carchar: |
||
mae’r amseroedd i gyd yn dibynnu ar draffig ac ar y carchar ei hun: | ||
Bws Bangor | ||
Yno | Yn ôl | |
Bangor codi yn yr orsaf drên am | 10:15am* | Cyrraedd 4:30pm |
Cyrraedd Altcourse erbyn | 12:15pm | Gadael 2:30pm |
*Efallai bydd yr amser gadael o Fangor yn amrywio er mwyn caniatáu i godi pobl o lefydd eraill ar hyd y daith.
|
||
Bws Llandudno | ||
Yno | Yn ôl | |
Bae Colwyn codi yn yr orsaf drên am | 9:30am | Cyrraedd 5:30pm |
Llandudno codi yn yr orsaf drên am | 10:00am | Cyrraedd 5:00pm |
Abergele/Pensarn codi yn yr orsaf drên am | 10:30am | Cyrraedd 4:30pm |
Rhyl codi yn yr orsaf drên am | 11:00am | Cyrraedd 4:00pm |
Cyrraedd Altcourse am | 12:30pm | Gadael 2:30pm |